I atgyfnerthu rhyngweithiadau cadarnhaol ac i sicrhau diogelwch pob myfyriwr rydym yn gweithredu system Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol Ysgol Gyfan (SWPBS).
Mae’r system hon yn canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar drwy:
- cefnogi dysgu effeithiol trwy ddatblygu amgylchedd cadarnhaol, tawel a chroesawgar
- addysgu a modelu ymddygiad sy'n dderbyniol yn gymdeithasol
- creu hinsawdd ysgol gadarnhaol, sy'n gwerthfawrogi cyflawniad ac yn gwobrwyo myfyrwyr
- ymateb yn agored i anghenion arweinwyr ysgol, staff, myfyrwyr, rhieni a gofalwyr
- hyrwyddo a chynnal amgylchedd dysgu diogel, parchus a threfnus ar gyfer yr holl fyfyrwyr a staff.
Ni fydd bwlio, hiliaeth a gwahaniaethu yn cael eu goddef, a bydd staff y coleg yn delio â nhw yn unol â'i bolisi bwlio.
Bydd yr ysgol yn gweithredu strategaethau ymddygiad cadarnhaol ar draws yr ysgol, ac yn addysgu'r disgwyliadau hyn i bob myfyriwr. Mae’r polisi bwlio ar gyfer yr ysgol newydd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan y pedwar cyngor ysgol uwchradd presennol a bydd yn ei le erbyn dechrau 2020.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, darllenwch
Dilynwch